Polisi preifatrwydd

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut yr ydym yn diogelu a pharchu’r data a gasglwn gennych.

Deddf Diogelu Data

Dan y Ddeddf Diogelu Data, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i neb arall nac Adran y Llywodraeth os nad ydych yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu?

Casglwn ddau fath o wybodaeth o ymwelwyr i Wefan Ffatri Hwyl Hiraethog: adborth (drwy negeseuon e-bost i’r tîm Golygyddol) a gwybodaeth defnydd safle, o cwcis a ffeiliau log.

1. Adborth

Croesawn eich adborth. Medrwch gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at information@hiraethog.org.uk.

i) Sylwadau a chwestiynau

Gall fod angen i ni gysylltu ag adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn ateb cwestiynau a anfonir atom. Os yw’ch cwestiwn yn dechnegol, gall fod angen i ni ei drosglwyddo i’n cyflenwyr technoleg. Ni fyddwn yn pasio dim o’ch gwybodaeth bersonol pan ydym yn delio gyda’ch ymholiad, os nad ydych wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

2. Gwybodaeth defnydd safle

i) Cwcis

Mae cwcis yn ddarnau o ddata a gaiff eu creu pan ydych yn ymweld â gwefan ac a gaiff eu cadw ar eich cyfrifiadur. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch, ac ni fedrir eu defnyddio i wybod pwy yw defnyddwyr unigol.